Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (165) |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Cwestiwn Brys
Dechreuodd yr eitem am 14.16
Simon Thomas
(Canolbarth a Gorllewin Cymru)
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y bwriad i gael uned ddamweiniau wedi’i harwain gan feddygon yn Ysbyty Tywysog Philip Llanelli yn sgîl ei lythyr at gadeirydd Plaid Lafur Llanelli dyddiedig 21 Tachwedd 2013?
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor
Dechreuodd yr eitem am 14.37
NDM5375 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llawn Llywodraeth y DU i Adroddiad Comisiwn Silk ar Ddiwygio Ariannol
Dechreuodd yr eitem am 14.37
4 Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Hill: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol
Dechreuodd yr eitem am 15.20
5 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd
Dechreuodd yr eitem am 15.59
6 Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y cynnydd o ran cyflwyno Strategaeth Yr Hawl i fod yn Ddiogel
Dechreuodd yr eitem am 16.39
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
7 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5364 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
46 |
10 |
0 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
8 Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.17
NDM5365 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) 2013
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM5366 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau eraill) 2013 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Tachwedd 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân
10 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal
Dechreuodd yr eitem am 17.48
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau parhad yn y gofal i oedolion yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Gofal
Dechreuodd yr eitem am 17.48
NDM5331 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried, yn ychwanegol at y darpariaethau y cyfeirir atynt yng nghynnig NNDM5247, y darpariaethau pellach hynny yn y Bil Gofal sy’n ymwneud â threfniadau cyfatebol y DU ar gyfer lleoliadau trawsffiniol oedolion ac ôl-ofal iechyd meddwl ar gyfer pobl, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r eithriad ASBO
Dechreuodd yr eitem am 18.03
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5342 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU wneud darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona, i ddiwygio’r eithriad ynghylch gorchmynion ymddygiad gwrthgymdeithasol ym mharagraff 12, Atodlen 7 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, sy’n addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
1 |
0 |
55 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig.
13 Dadl: Y manteision i Gymru i'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd
Dechreuodd yr eitem am 18.16
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5367 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod angen ailnegodi ein perthynas bresennol â’r UE fel y gall Cymru a'r DU fanteisio ar Undeb Ewropeaidd sy’n canolbwyntio'n fwy ar faterion economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
43 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar y DU yn aros yn aelod o’r UE; bod Cymru’n elwa o £144 miliwn y flwyddyn o fod yn aelod o'r UE; a bod dros 10,000 o gwmnïau yng Nghymru yn masnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda thrydydd partïon ar gyfer swyddi a'r economi yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
1 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn croesawu rôl yr UE yn diogelu ein hamgylchedd fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau 20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n cael ei chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
2 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Rhoi pwynt newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn croesawu cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
3 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
sy’n cynnwys gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
1 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynghylch a ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai canlyniad Cymru gyfan gael ei gofnodi ar wahân.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
7 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5367 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cydweithrediad Cymru ag Europol ac Eurojust, a'i gallu i ddefnyddio'r Warant Arestio Ewropeaidd fel arf, i ddiogelu dinasyddion Cymru rhag troseddau.
Yn croesawu rôl yr UE yn diogelu ein hamgylchedd fel arweinydd byd wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a llygredd trawsffiniol, a phwysigrwydd y cydymrwymiadau allweddol yn nhargedau 20-20-20 i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chynyddu’r gyfran o’r ynni a ddefnyddir yn yr UE sy’n cael ei chynhyrchu o adnoddau adnewyddadwy.
Yn nodi bod 160,000 o swyddi Cymru yn dibynnu ar y DU yn aros yn aelod o’r UE; bod Cymru’n elwa o £144 miliwn y flwyddyn o fod yn aelod o'r UE; a bod dros 10,000 o gwmnïau yng Nghymru yn masnachu gyda gwledydd eraill yn yr UE bob blwyddyn, sy'n dangos pwysigrwydd cael mynediad i'r farchnad sengl a threfniadau masnach rydd yr UE gyda thrydydd partïon ar gyfer swyddi a'r economi yng Nghymru.
Yn cydnabod y manteision i Gymru pe bai’r Deyrnas Unedig yn parhau’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd sy’n cynnwys gwneud Cymru yn wlad fwy llewyrchus, mwy cynaliadwy a mwy diogel.
Yn
credu, os bydd refferendwm yn cael ei gynnal ynghylch a
ddylai’r DU aros yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y dylai
canlyniad Cymru gyfan gael ei gofnodi ar wahân.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
44 |
5 |
3 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.15
Daeth y cyfarfod i ben am 19:20
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mercher, 27 Tachwedd 2013